Yma mae mynyddoedd grug, afonydd a phistyll, amrywiaeth o adar a bywyd gwyllt. Mae Cwmtylo wedi enill amrywiol wobrau, gyda'r ddiadell o ddefaid mynydd Cymreig, gwarthed duon, a gweithgareddau amgylcheddol ar lefel cenedlaethol.
Maer ffermdy tros y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei adnewyddu i safon uchel, gan gadw yr harddwch ar elfenau traddodiadol, fel yr ystrwythur derw, ar llefydd tan agored.
Rydym yn croesawu unigolion, cyplau a theuluoedd. Mae croewso i bawb yng Nghwmtylo.
Fe fyddwch yn edmygu prydferthwch hyfryd a fferm, ar gallu i gerdded tros 1,500 o erwau. Gallwch gymeryd rhan mewn amrywiol weithgareddau'r fferm, yn ddibynol ar y tymhorau. Yn y gwanwyn a thros gyfnod y Pasg, byddwn yn wyna, gallwch fwydo'r wyn llyweth, neu wylio genedigaeth oen bach. Yn gynar yn yr haf byddwn yn cneifio, ble bydd y gwlan yn myn i gynhyrchu dillad a charpedi, cynheuafu gwair a silwair yn y dolydd, i fwydor anifeiliaid tros y gaeaf, ac maer Hydref an adeg o brydferthwch, gyda lliwiau euraidd y coed hynafol, ar grug yn borffor. Tymor y nadolig ar gaeaf gallwch ddeffro i flanced berffaith o eira yn gorchuddior tir.
Mae ganddom 3 milltir o neuntydd ac afonydd, ble mae posib pysgota am frithyll, neu gallwch hurio ein beic modur am gyfnod.